Catalunya: Plaid Cymru'n galw am bleidlais yn y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
CatalunyaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe bleidleisiodd senedd Catalunya o blaid annibyniaeth ddydd Gwener - ond gwrthod pleidleisio wnaeth y rhan fwyaf o'r gwrthwynebwyr

Mae Plaid Cymru wedi galw am bleidlais yn y Cynulliad i gydnabod annibyniaeth Catalunya.

Daw wedi i fwyafrif yn senedd Catalunya bleidleisio dros ddatgan annibyniaeth mewn sesiwn ddydd Gwener.

Mae senedd ganolog Sbaen ym Madrid wedi cymeradwyo cymryd camau i gymryd rheolaeth uniongyrchol o faterion y rhanbarth.

Ond dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ei bod yn "llongyfarch" pobl Catalunya am "ennill eu hannibyniaeth drwy ddulliau heddychlon a democrataidd".

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi galw am "ddeialog a diplomyddiaeth" i sicrhau setliad.

Llywodraeth y DU yn gwrthod

Daw'r bleidlais ddydd Gwener yn dilyn refferendwm dadleuol ar 1 Hydref, pan gafodd cannoedd o bleidleiswyr eu hanafu wrth i heddlu Sbaen geisio atal y refferendwm.

Fe gafodd yr ymateb hwnnw feirniadaeth ryngwladol, gan gynnwys gan ACau Llafur a Phlaid Cymru.

Dywedodd Llywodraeth y DU ddydd Gwener na fyddan nhw'n cydnabod Catalunya fel gweriniaeth annibynnol.

Leanne Wood

Galwad Plaid Cymru ydy i Gymru wneud hynny mewn pleidlais yn y Cynulliad.

"Mae pobl Catalunya wedi mynnu ar drywydd democrataidd i sicrhau annibyniaeth drwy'r blwch pleidleisio," meddai Ms Wood.

"Bydd Plaid Cymru yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i gydnabod Gweriniaeth Catalunya fel gwlad annibynnol."

'Deialog a diplomyddiaeth'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones bod y sefyllfa angen "deialog a diplomyddiaeth" er mwyn dod i gytundeb.

Dywedodd: "Yn anffodus yr hyn rydyn ni wedi ei weld mewn wythnosau diweddar yw cylch pryderus o ddwysâd, bygythiadau a chwarae ar y dibyn, pan yr hyn sydd ei angen yw deialog a diplomyddiaeth.

"Yr hyn sydd orau i bawb yng Nghatalunya a Sbaen i gyd yw sicrhau setliad parhaol sy'n seiliedig ar barch o'r ddwy ochr."

Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones bod angen setliad sy'n "seiliedig ar barch" yng Nghatalunya

Fe wnaeth Plaid Cymru hefyd alw ar yr Undeb Ewropeaidd i "gefnogi deialog" rhwng Sbaen a Catalunya, wedi i lywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, ddweud nad oedd y bleidlais seneddol yn "newid dim".

Daeth galwad debyg gan lywodraeth yr SNP yn yr Alban, wnaeth ychwanegu eu bod yn "deall ac yn parchu safbwynt Llywodraeth Catalunya".

Ond dywedodd dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton, mai'r Undeb Ewropeaidd yw'r "gelyn" oherwydd eu "cefnogaeth oddefol" i lywodraeth Sbaen.

Ychwanegodd: "Rydw i'n credu yn y Deyrnas Unedig ond mae gan bobl Cymru'r hawl ddemocrataidd i ddewis eu dyfodol gwleidyddol eu hunain.

"Mae Catalunya yn haeddu yr un peth."