Ymddygiad rhywiol amhriodol 'yn dal i fodoli' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cyfweliad yr actores wedi'i ail-greu uchod gydag aelod o'r tîm cynhyrchu actio ei rhan
Mae actores ifanc yn dweud bod ymddygiad amhriodol "yn dal i fodoli" yn y diwydiant ffilm a theledu a bod "pobl dal yn teimlo bod nhw'n gorfod cymryd y swyddi".
Dywedodd yr actores - oedd yn dymuno bod yn anhysbys - na fyddai hi'n gweithio i un cyfarwyddwr o Gymru am ei fod wedi gofyn "cwestiynau rhywiol" a "phersonol" i eraill yn y diwydiant.
Daw honiadau'r actores yn dilyn mis o honiadau o ymosodiadau rhyw yn erbyn y cynhyrchydd ffilmiau, Harvey Weinstein. Mae o'n gwadu hynny.
Yn gynharach ddydd Gwener, datgelodd y gantores Heather Jones bod dyn wedi ymosod arni hi yn y 1970au.
Mae undeb y perfformwyr, Equity, wedi galw ar i'w haelodau gael eu trin â "pharch".
'Dyw e ddim yn gyfrinach'
Yn ôl yr actores anhysbys, roedd y cyfarwyddwr dan sylw "wedi gofyn cwestiynau rhywiol uffernol o bersonol mewn clyweliadau" i'w ffrindiau.
"Mae pawb yn gwbod sut berson yw e, dyw e ddim yn gyfrinach," meddai wrth Newyddion 9.
"Mae gen i ffrindiau hefyd sydd wedi cael profiad o weithio 'efo cyfarwyddwyr oedd yn dweud pethau anaddas am eu cyrff yn ddyddiol. Felly mae o'n dal i fodoli.
"Yn anffodus, ma' pobl dal yn teimlo bod nhw'n gorfod cymryd y swyddi. Ddyle' fe ddim fod yn gweithio."

Daw'r honiadau am y cyfarwyddwr o Gymru wedi mwy na 40 o honiadau o gamymddwyn rhywiol gan y cynhyrchydd ffilmiau, Harvey Weinstein, sy'n gwadu'r cyhuddiadau
Dywedodd bod y cyfarwyddwr wedi gofyn i un actor am farn bersonol ar ryw.
"O'dd e'n cyfarwyddo rhywbeth oedd efo elfen rhywiol ynddo fo.
"Ond oedd e'n gofyn pethe' fel sexual preferences, am ba positions ma' pobl yn hoffi... sy' ddim byd i wneud 'efo'r cymeriad.
"O'dd e'n gofyn eich barn personol chi... A dyle' fe ddim angen sôn am bethe' fel 'na mewn cyfweliad. Na'th e ofyn wrth ffrind i actio pethe' allan a phethe' fel 'na."

Roedd Heather Jones yn ei 20au pan ddioddefodd ymosodiad rhyw honedig gan ddyn
Dywedodd Heather Jones wrth Y Post Cyntaf ddydd Gwener ei bod hi'n "bwysig i siarad" am ymosodiadau rhyw o fewn y byd perfformio.
Ar y pryd, fe benderfynodd "jyst anghofio amdano fe a chario 'mlaen".
Ond dywedodd ei bod yn "rili, rili ypset ar y pryd" a "ddim yn teimlo 'mod i'n gallu mynd allan ar ben fy hun neu gyda grŵp o ferched eto am flynyddoedd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2017

- Cyhoeddwyd19 Hydref 2017

- Cyhoeddwyd14 Hydref 2017
