Ymgais i gipio merch 14 yn Ystradgynlais, Powys

  • Cyhoeddwyd
Wind Road, YstradgynlaisFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ar Heol y Gwynt yn Ystradgynlais ddigwyddodd yr ymgais i gipio'r ferch

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymgais aflwyddiannus i gipio merch 14 oed ym Mhowys.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn Ystradgynlais tua 16:40 ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys na chafodd y ferch ei hanafu a'i bod yn cael cefnogaeth swyddogion arbenigol.

Mae mwy o heddlu yn goruchwylio'r ardal ac mae'r ymchwiliad yn parhau.