Gweilch 28-14 Dreigiau
- Cyhoeddwyd

Y Gweilch oedd yn fuddugol yng ngornest Gymreig diweddaraf y Pro14, wrth iddyn nhw guro'r Dreigiau yn Abertawe.
Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 24 munud gyda chais i Dan Biggar, ond tarodd yr ymwelwyr yn ôl funudau wedyn diolch i gais Leon Brown.
Ychydig cyn hanner amser, sgoriodd Sam Parry ail gais i'r Gweilch cyn i gic gosb gan Biggar sefydlu mantais o 13-7.
Er i gic arall gan Biggar ymestyn y fantais yn gynnar yn yr ail hanner, fe frwydrodd y Dreigiau yn ôl gydag Elliot Dee yn tirio.
Ond wedi hynny, seliodd y tîm cartref y fuddugoliaeth gyda dau gais - un i Brendon Leonard a'r llall i Ma'afu Fia.
Mae'r Gweilch yn chweched yn Adran A y Pro14, gyda'r Dreigiau yn chweched yn Adran B.