Yr Arglwydd Baker: Wnes i newid bron popeth ym myd addysg
- Cyhoeddwyd

Roedd Kenneth Baker yn un o ffyddloniaid Margaret Thatcher, bu'n gadeirydd y Blaid Geidwadol pan ymddiswyddodd hi fel Prif Weinidog yn 1990
Dim ond am dair blynedd buodd Kenneth Baker yn Ysgrifennydd Addysg yng nghabinet Margaret Thatcher ond roedd hi'n gyfnod o ddiwygio brwd.
Roedd e'n ffigwr cyfarwydd i athrawon Cymru yn yr 1980au - a nid bob amser yn un poblogaidd.
Rhoddodd ei enw i "Baker days" - diwrnodau hyfforddiant mewn swydd i athrawon.
Rhwng 1986 a 1989 fe gyflwynodd arholiadau TGAU, profion cenedlaethol i blant iau, tablau cynghrair ysgolion a chwriwcwlm cenedlaethol.
'Rhy academaidd'
Mae'r cwriwcwlm dal yn sail i feysydd llafur ysgolion Cymru ond daeth datganoli a thrywydd gwahanol i addysg bob ochr i'r ffin.
Ymhen pum mlynedd bydd cwricwlwm newydd sbon yn dechrau cael ei ddysgu yn ein ysgolion.
Oes na wersi felly all y dyn sy'n wreiddiol o Gasnewydd eu cynnig i Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams?
Fe fuodd e'n cyfarfod â hi ym Mae Caerdydd fis diwetha', ac roedd y cwricwlwm ar frig yr agenda.
Dywedodd: "Roedd hi â diddordeb mawr yn y cwricwlwm, a fe ddywedais i nad oeddwn ni'n cytuno gyda'r cwricwlwm sy'n cael ei orfodi ar ysgolion Lloegr ar hyn o bryd - mae'n llawer rhy academaidd.
"Rwy'n credu dylai fod llawer mwy o wahanol bynciau dan 16, sef beth wnes i gyda'r cwricwlwm gwreiddiol."

Rhoddodd yr arglwydd ei enw i ddiwrnodau hyfforddiant mewn swydd i athrawon - "Baker days"
Fe fydd cwricwlwm newydd Cymru'n cyflwyno chwe maes dysgu a phrofiad eang gyda llythrenedd, rhifedd a sgiliau digidol yn rhan o bob gwers.
Ydy hynny mwy at ddant yr Arglwydd Baker?
"Mae'n dibynnu beth y'ch chi'n gwneud gyda'r cyfnod 3 i 16 yna a phryd rydych chi'n cyflwyno pethau penodol," meddai.
"Tua 13 neu 14 oed mae angen llawer mwy o addysg dechnegol."
'Gyrru newidiadau'
A dyna sydd wedi mynd a bryd yr Arglwydd Baker ers rhai blynyddoedd bellach - hyrwyddo addysg dechnegol, a'n fwy penodol yr ysgolion academi yn Lloegr a helpodd eu sefydlu.
Mae'r University Technical Colleges yn ysgolion i bobl ifanc 14 i 19 oed sy'n rhoi pwyslais ar addysg dechnegol law yn llaw gydag addysg academaidd.
Mae'n cydnabod, serch hynny, nad yw'r model ysgolion academi yn un sy'n apelio at Kirsty Williams a Llywodraeth Cymru.
Ond fel gweinidog oedd yn gyfrifol am drawsnewid sawl agwedd o'r drefn addysg oes ganddo gyngor i weinidog arall sy'n ceisio cyflwyno cwrwicwlwm newydd?
"Wnes i newid bron popeth yn y drefn addysg," meddai gyda gwen.
"Os yw llywodraeth yn gwybod be' mae eisiau gwneud, fe all hi yrru newidiadau drwodd.
"Rhaid mynd â rhieni gyda nhw, rhaid mynd ag athrawon gyda nhw."
Sunday Politics Wales, BBC 1, dydd Sul am 11:00.