Cwpan y Byd: Papua Guinea Newydd 50-6 Cymru

  • Cyhoeddwyd
PNGFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wellington Albert yn dathlu wrth Papua Guinea Newydd sgorio un o'u 10 cais

Mae tîm rygbi 13 Cymru wedi cael crasfa yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd.

Sgoriodd Papua Guinea Newydd 10 cais, gan gynnwys tri i David Mead.

Regan Grace oedd sgoriwr unig gais Cymru, a hynny yn symudiad ola'r gêm.

Mae'r canlyniad yn drychinebus i obeithion Cymru yn y gystadleuaeth, gan mai dim ond un tîm o Grŵp C fydd yn cyrraedd rownd yr wyth olaf.

Roedd gan Papua Guinea Newydd y fantais o chwarae yn eu stadiwm eu hunain yn Port Moresby, ac roedd Cymru'n dioddef yn y gwres wrth i'r tymheredd gyrraedd 29ºC.

PNGFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tîm Cymru groeso gan ddawnswyr traddodiadol Papua Guinea Newydd