Dynion o Nigeria yn sleifio ar long yn teithio i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau bod pedwar dyn o Nigeria wedi eu canfod ar long a gyrhaeddodd Aberdaugleddau.
Roedd llong yr Elka Glory wedi hwylio o Lagos, prifddinas y wlad Affricanaidd, cyn cyrraedd de Cymru ddydd Iau.
Fe wnaeth swyddogion y ffin fynd ar y llong pan gyrhaeddodd hi'r porthladd er mwyn arestio'r dynion, oedd rhwng 18 a 25 oed.
Ar hyn o bryd maen nhw'n cael eu holi yn swyddfa heddlu Hwlffordd.
Dywedodd y Swyddfa Gartref y bydden nhw'n delio ag achosion y dynion yn unol â rheolau mewnfudo, ac y byddai unrhyw un oedd heb hawl i fod yn y DU yn cael eu hanfon nôl.