Tân Llangamarch: Rhyddhau tri o blant o'r ysbyty
- Cyhoeddwyd

Credir bod David Cuthbertson wedi marw yn y tân
Mae tri o'r plant wnaeth lwyddo i ddianc o'r tân angheuol ar gyrion pentref Llangamarch ym Mhowys wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Martin Slevin o Heddlu Dyfed-Powys fod y tri, sy'n 13, 12 a 10 oed, nawr yng ngofal aelodau o'r teulu.
Credir bod eu tad David Cuthbertson, 68 oed, a phump o blant wedi marw ar ôl i'r ffermdy fynd ar dân ddydd Llun.
"Mae'r teulu yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a byddwn yn ailadrodd eu dymuniad i bobl barchu eu preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd yma ac i beidio â chysylltu â nhw mewn unrhyw ffordd, " meddai'r Ditectif Prif Arolgydd.
"Maen nhw yn ddiolchgar i'w ffrindiau ac i'r gymuned leol am eu cefnogaeth, caredigrwydd a'u cydymdeimlad."
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod y dioddefwyr yn perthyn ond oherwydd y dinistr i'r adeilad dyw hi ddim wedi bod yn bosib iddynt enwi yn swyddogol y rhai sydd wedi marw.
Mae disgwyl i'r gwaith o adnabod y cyrff gymryd cryn amser.
Cafodd y digwyddiad ei godi yn San Steffan yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, a dywedodd Theresa May ei bod hi'n "anfon cydymdeimladau" i deulu a ffrindiau'r rheiny gafodd eu heffeithio.
"Roedd hwn wir yn drasiedi ofnadwy," meddai.

Pram tegan plentyn y tu allan i adeilad y ffermdy

Mae nifer o bobl wedi gadael blodau a theganau fel teyrnged i'r rhai sydd wedi marw

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2017

- Cyhoeddwyd31 Hydref 2017

- Cyhoeddwyd30 Hydref 2017
