Owen Williams yn ganolwr wrth i Gymru wynebu Awstralia

  • Cyhoeddwyd
Owen WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Owen Williams ennill ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn Tonga yn 2017

Mae'r maswr Owen Williams wedi ei ddewis fel canolwr wrth i Gymru ddewis y 15 fydd yn wynebu Awstralia yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Josh Navidi o'r Gleision sydd wedi ei ddewis yn safle'r blaenasgellwr, yn dilyn anafiadau i Sam Warburton a Justin Tipuric.

Mae Leigh Halfpenny yn dychwelyd i safle'r cefnwr gyda Liam Williams yn symud i'r asgell.

Mae prop y Dreigiau, Leon Brown, 21 oed, yn cael cyfle i ennill ei gap cyntaf o'r fainc, ac felly hefyd Sam Cross o'r Gweilch.

Gan fod Warburton a Tipuric wedi eu hanafu a Ross Moriarty ond wedi chwarae un gêm i Gaerloyw oherwydd anaf, mae Aaron Shingler hefyd wedi ei ddewis fel blaenasgellwr.

Josh NavidiFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Josh Navidi wedi ei ddewsi yn safle'r blaenasgellwr.

Dywedodd hyfforddwr Cymru Warren Gatland fod "hon yn gêm gyntaf galed, a bydd angen i fod yn gystadleuol o'r dechrau".

Ychwanegodd: "Rydym wedi dewis carfan yn llawn talent a chwaraewyr sy'n chwarae'n dda felly rwy'n llawn cyffro."

Un arall sydd â chyfle i ennill ei gap cyntaf o'r fainc yw canolwr y Gweilch Owen Watkin.

Golygai anafiadau a'r awydd i gyflwyno talent newydd mai dim ond cyfanswm o 37 cap sydd rhwng yr wyth chwaraewr sydd ar y fainc i Gymru.

Bydd Awstralia yn wynebu'r un pump blaen a wnaeth golli i Ffrainc yng ngêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ond mae'r rheng ôl wedi newid yn llwyr, gyda Taulupe Faleatu yn cymryd lle Moriarty yn safle'r wythwr.

Hefyd yn eisiau o'r tîm gafodd eu trechu 20-18 mae'r olwyr George North, Scott Williams a Rhys Webb.

Linebreak

Tîm Cymru i wynebu Awstralia

Olwyr: Leigh Halfpenny (Scarlets), Liam Williams (Saracens), Jonathan Davies (Scarlets), Owen Williams (Caerloyw), Steff Evans (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets);

Blaenwyr: Rob Evans (Scarlets), Ken Owens (Scarlets), Tomas Francis (Caerwysg), Jake Ball (Scarlets), Alun Wyn Jones (Cap) (Gweilch), Aaron Shingler (Scarlets), Josh Navidi (Gleision), Taulupe Faletau (Caerfaddon).

Eilyddion: Kristian Dacey (Gleision), Nicky Smith (Gweilch), Leon Brown (Dreigiau), Cory Hill (Dreigiau), Sam Cross (Gweilch), Aled Davies (Scarlets) , Owen Watkin (Gweilch), Hallam Amos (Dreigiau).

Tîm Awstralia

Olwyr: Beale; Koroibete, Kuridrani, Kerevi, Hodge; Foley, Genia.

Blaenwyr: Sio, Polota-Nau, Kepu, Simmons, Coleman, Hanigan, Hooper (capt), McMahon.

Eilyddion: Moore, Robertson, Alaalatoa, Philip, McCalman, Phipps, Hunt, Speight.