'Atgofion melys' wrth i Gymru ddychwelyd i Ffrainc
Mae dirprwy reolwr Cymru wedi sôn am yr "atgofion melys" o Euro 2016 yn Ffrainc ac yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at herio "un o'r ffefrynnau yng Nghwpan y Byd".
Fe fydd Cymru yn herio Ffrainc yn y Stade De France, Paris, nos Wener.
Dywedodd Osian Roberts mai dyma'r union her oedd ei hangen ar Gymru i ddod dros y golled yn erbyn Iwerddon fis diwethaf. Owain Llyr oedd yn holi.