'Mwy o gorau' yn yr Ŵyl Gerdd Dant eleni

  • Cyhoeddwyd
Gwyl Gerdd DantFfynhonnell y llun, AFP

Mae disgwyl mwy o gystadlu corawl yn yr Ŵyl Gerdd Dant eleni na'r blynyddoedd a fu, yn ôl trefnydd Gŵyl Cerdd Dant Cymru.

Yn Ysgol Bro Teifi ar gyrion Llandysul y mae'r ŵyl yn cael ei chynnal eleni.

Mae'r Ŵyl Gerdd Dant yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed eleni.

Yn y Felinheli ym 1947 y cafodd y gyntaf ei chynnal.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor gwaith eleni, Keith Evans, mae wedi bod yn fraint i'w chael yn yr ardal gan nad yw wedi bod yno ers dros 50 mlynedd.

John Eifion
Disgrifiad o’r llun,

'Mi fydd hi'n ddiwrnod da'm medd John Eifion

Dywedodd trefnydd yr ŵyl, John Eifion: "Mae 'na nifer da ar nifer o'r cystadlaethau.

"Ry'n ni'n ffodus bod chwech côr cerdd dant yn cystadlu ac mae hynny yn anarferol yn genedlaethol.

"Does dim chwe côr cerdd dant wedi bod ers sawl blwyddyn - mi fydd hi'n ddiwrnod da."

Y flwyddyn nesaf fe fydd yr ŵyl yn ymweld â Blaenau Ffestiniog.