Angen 'edrych eto' ar drwyddedau i sŵau bach medd Fogle
- Cyhoeddwyd

Mae'r darlledwr Ben Fogle wedi dweud bod angen "adlewyrchu" ar y penderfyniad i roi trwyddedau i sŵau bach.
Dywedodd Fogle, sydd yn noddwr bywyd gwyllt y Cenhedloedd Unedig, bod y penderfyniad i ladd y lyncs oedd yn dod o sŵ Borth yn y dyddiau diwethaf wedi bod yn "llawdrwm".
"Mae dau lyncs wedi marw o fewn wythnos a dw i'n meddwl bod yna fethiannau wedi bod ar draws y sector."
Dim dewis
Cafodd un o'r cathod gwyllt, Nilly, ei lladd ddydd Llun, wrth iddi gael ei chludo o un warchodfa i'r llall.
Ddydd Gwener cafodd lyncs arall, Lillith, ei saethu ar gais Cyngor Ceredigion.
Yn ôl yr awdurdod lleol doedd dim dewis ganddyn nhw am fod y lyncs wedi croesi i ardal fwy poblog o'r gymuned.

Mae'r darlledwr Ben Fogle yn cwestiynau a ddylai trwyddedau gael eu rhoi i sŵau bach
Mae Borth Wild Animal Kindgom wedi dweud eu bod yn gwneud "gwelliannau enfawr" i'r sŵ.
Pan ofynnwyd i'r darlledwr ynglŷn â rhoi trwyddedau i sŵau bach dywedodd bod angen "edrych yn ofalus ar sut ydyn ni yn edrych ar ôl creaduriaid, ac mae 'na adroddiadau wedi bod ar draws Prydain o gasgliadau preifat, casgliadau agored, sydd ddim i weld yn cymryd y cyfrifoldeb yna o ddifri neu'n deg".
Yn y cyfamser mae cyn-berchennog sŵ Borth wedi dweud ei bod yn teimlo'n "ofnadwy" ar ôl i'r ddau lyncs farw, ddyddiau ar ôl ei gilydd.
'Camgymeriad erchyll'
Dywedodd Jean Mumbray bod Nilly yn "angel" a oedd wedi dod i'r sŵ pan oedd hi'n dri mis oed ac wedi ei magu fel anifail anwes bron.
Mae perchnogion presennol y sŵ wedi dweud bod hi'n ymddangos mai "camgymeriad erchyll" wnaeth arwain at farwolaeth Nilly a bod yr anifail wedi "ei dal yn y polyn a'i mygu".
Dywedodd Tracy Tweedy o Borth Wild Animal Kindgom: "Fe ddigwyddodd hyn mewn cyfnod o ddau funud. Fe aeth hi'n llipa...ac fe gafodd hi adfywiad ceg wrth geg gan un o'n staff.
"Fe wnes i yn bersonol dylino ei chalon tra roeddwn i yn ceisio ei hadfywio. Mi oedd e'n erchyll."

Roedd Nilly, y lync, yn "angel" medd y cyn berchennog Jean Mumbray (uchod)
Roedd cyn berchnogion y sŵ, Jean a'i gwr Alan yn gyfrifol am y sŵ am 17 mlynedd, tan iddyn nhw ymddeol ym mis Mai.
Mae'n dweud iddi gael sioc wrth glywed am y newyddion.
"Fy agwedd i nawr yw fy mod i yn ceisio gweld pethau o bersbectif Tracy. Mae'n siŵr bod yna banig pan wnaeth e ddigwydd."
Ychwanegodd y byddai wedi bod yn bosib cysylltu gyda sŵ Gaer er mwyn cael bocs sydd yn dal cathod yn hytrach na defnyddio polyn ond ei bod yn gobeithio y bydd y sŵ yn aros ar agor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017

- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2017

- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2017
