Ymgyrch arall i achub tafarn yn nghefn gwlad Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
bbc
GanAled Scourfield
Gohebydd BBC Cymru

Fe fydd pobl pentref Boncath a'r cylch yn cwrdd nos Fercher i drafod a ydyn nhw am geisio prynu'r dafarn leol a'i rhedeg hi fel menter gydweithredol.

Mae drysau'r Boncath Inn ger Crymych yng ngogledd Sir Benfro wedi bod ar gau ers dros flwyddyn, ac mae'r adeilad ar werth.

Fe ddaw'r cyfarfod yn Neuadd Boncath ar ôl llwyddiant diweddar yr ymdrechion i brynu Tafarn Sinc yn Rhosybwlch gerllaw.

Yno fe lwyddodd menter gydweithredol i godi dros £325,000 a chafodd y dafarn ei hailagor ddechrau'r mis.

Y bwriad ym Moncath yw trafod cynllun i werthu cyfranddaliadau - tebyg i'r un a ddefnyddiwyd i brynu Tafarn Sinc.

Fe fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Neuadd Boncath am 19:00.