Cyhoeddi carfan merched Cymru ar gyfer dwy gêm ragbrofol
- Cyhoeddwyd

Mae Jayne Ludlow wedi bod yn reolwr ar dim merched Cymru ers 2014
Mae rheolwr tîm merched Cymru, Jayne Ludlow wedi cyhoeddi'r garfan ar gyfer y gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Kazakhstan a Bosnia-Herzegovina.
Ni fydd Peyton Vincze na Charlie Estcourt ar gael wedi i'r ddwy fod yn y garfan ar gyfer y gem ddi-sgor ddiwethaf yn erbyn Rwsia.
Bydd Cymru yn wynebu Kazakhstan yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 24 Tachwedd cyn teithio i wynebu Bosnia-Herzegovina yn Zenica bedwar ddiwrnod yn ddiweddarach.
Mae Cymru ar frig Grŵp 1, pwynt ar y blaen i Loegr a Bosnia-Herzegovina.
Carfan Cymru'n llawn:
Golwyr: Claire Skinner, Laura O'Sullivan.
Amddiffynwyr: Loren Dykes, Gemma Evans, Hayley Ladd, Rhiannon Roberts, Amina Vine, Alice Griffiths, Shaunna Jenkins, Sophie Ingle
Canol cae: Rachel Rowe, Jess Fishlock, Angharad James, Chloe Lloyd, Kylie Nolan, Gwennan Davies.
Ymosodwyr: Nadia Lawrence, Kayleigh Green, Chloe Chivers, Natasha Harding, Helen Ward, Grace Horrell.