Diffyg datrys cwynion gan rai cyrff yn 'siomedig'

  • Cyhoeddwyd
Nick Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nick Bennett wedi gofyn am lai o arian i wneud ei waith y flwyddyn nesaf

Dylai cyrff cyhoeddus fel byrddau iechyd a chynghorau weithio'n galetach i ddatrys cwynion i leihau'r pwysau ar yr Ombwdsmon, yn ôl pwyllgor Cynulliad.

Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n delio â chwynion pan fo cyrff eraill yn methu eu datrys, yn gofyn am lai o arian gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth y pwyllgor cyllid ganmol "dull darbodus" Nick Bennett i dorri costau.

Ond fe wnaeth yr aelodau rybuddio bod cyrff cyhoeddus sy'n addo, ond yn methu, datrys cwynion yn ychwanegu at ei lwyth gwaith.

Mae Mr Bennett wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru ei fod angen £4.41m i ariannu ei waith yn 2018/19, i lawr o £4.46m eleni er bod cynnydd o 13% wedi bod yn nifer y cwynion sy'n cael ei gyfeirio ato.

Yn ymateb i'w gais am gyllid, fe wnaeth y pwyllgor cyllid gydnabod bod cynnydd o 75% wedi bod yn nifer y cwynion i'r ombwdsmon rhwng 2011 a 2017, gyda bron i 40% o'r rheiny'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd.

'Gorlwytho â chwynion'

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, AC Plaid Cymru Simon Thomas ei fod yn "cymeradwyo dull darbodus yr Ombwdsmon o baratoi ei amcangyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf."

"Mae'n siomedig bod rhai sefydliadau'n cytuno ar ddatrysiad cynnar ond yna'n methu â bodloni eu rhwymedigaethau," meddai.

"Mae hyn yn effeithio ar waith yr Ombwdsmon, ac ar bwrs y cyhoedd, gan fod rhaid defnyddio rhagor o adnoddau i ymdrin â chŵyn."

Dywedodd Mr Bennett ei fod "ar ben fy nigon" bod y pwyllgor wedi cydnabod bod ei swyddfa wedi bod yn "ddarbodus ac arloesol" yn eu gwaith.

"Mae 'na risg gydag adnoddau sefydlog neu ostyngol y gallwn ni gael ein gorlwytho â chwynion yn y dyfodol," meddai.

"Ond rydyn ni wedi gwneud yn dda iawn dros y tair blynedd a hanner diwethaf (ers iddo ddechrau yn ei rôl) ac rwy'n hyderus y gallwn ni ymdopi os fyddwn ni'n cael yr adnoddau rydyn ni wedi gofyn amdanyn nhw."