Cymru 1-0 Kazakhstan

  • Cyhoeddwyd
cymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe lwyddodd cic-rydd hwyr gan Hayley Ladd i sicrhau'r fuddugoliaeth i ferched Cymru yn eu gêm yn erbyn Kazakhstan yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2019, nos Wener.

Yn dilyn hanner cyntaf ddigon caled i dîm Jayne Ludlow, ni ddaeth llawer o gyfle i Gymru fynd ar y blaen, gan fod yr ymwelwyr amddiffyn yn gadarn ac yn dal eu tir yn dda.

Fe ddaeth cyfle i Gymru yn yr ail hanner, gyda chyfleoedd gan Natasha Harding ac Angharad James.

Ond Ladd ddaeth a'r gôl angenrheidiol, a arweiniodd yn y pen draw at y tri phwynt i Gymru.

Wedi dweud hynny, roedd golwr Kazakhstan, Zheleznyak wedi creu argraff drwy gydol y gêm, ac wedi llwyddo i gadw'r bêl allan o'r rhwyd ar sawl achlysur.

Mae Cymru'n parhau ar frig Grŵp 1 wedi'r fuddugoliaeth.