Tân bwriadol yn lladd ceffyl ac yn anafu un arall
- Cyhoeddwyd

Roedd Rodney (a welir yma fel ebol) bron yn dair oed ac mae ei fam Juwireya yn naw oed
Mae ymosodiad tân bwriadol ar ystabal bridwyr sydd wedi ennill ras Grand National Cymru wedi lladd un ceffyl ac anafu un arall.
Cafodd Janet a Brian Vokes wybod am y tân yng Nghefn Fforest, Caerffili am 06:30 fore Sul.
Dywedodd Mrs Vokes: "Mae'r cyfan wedi'n hysgwyd - pam fyddai rhywun eisiau gwneud y fath beth?"
Mr a Mrs Vokes yw perchnogion y ceffyl Dream Alliance sydd wedi ennill ras Grand National Cymru.
Mae milfeddygon yn trin Juwireya ond nid oes gwybodaeth hyd yma am ddifrifoldeb ei hanafiadau ond mae hi wedi cael llosgiadau i'w hwyneb, ei chefn a'i choesau.
Amcangyfrifir fod cost y difrod oddeutu £3,000.

Mae Janet a Brian Vokes yn dweud bod y cyfan wedi'u hysgwyd
Cafodd y ceffyl Dream Alliance ei gyllido gan grŵp o ffrindiau a selogion y clwb lleol ac roedd pawb yn cyfrannu £10 fel bod y ceffyl yn gallu cael ei hyfforddi.
Y disgwyl yw y byddai Rodney, a oedd yn cael ei adnabod fel Rodders, yn dilyn llwybr llwyddiannus Dream Alliance ac y byddai'n rasio o dan yr enw Impossible Dream.
Dim ond newydd ddychwelyd roedd Rodney i'r ystabl yng Nghaerffili. Dros yr haf roedd wedi bod yn aros mewn cae yn Y Fenni.
Dyweodd Mrs Vokes: "Does gennym ddim gelynion. Ry'n yn cadw ein hunain i'n hunain - dim ond y ceffylau sydd yma.
"Does gennym ddim syniad pwy sy'n gyfrifol - ry'n yn gobeithio y bydd rhywun lleol yn mynd at yr heddlu os ydynt yn gwybod rhywbeth."
Anfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De bump criw i ddiffodd y tân ac yn ystod y dydd mae Jennie Griffiths, ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub y De wedi trydar bod y tân wedi cael ei gynnau'n fwriadol.
Mae'r Gwasanaeth Tân a Heddlu Gwent yn ymchwilio i'r achos.

Mae milfeddyg yn asesu difrifoldeb anafiadau Juwireya