Apêl i ganfod teulu milwr Rhyfel Byd Cyntaf o Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Bu farw'r Preifat Henry Davies ar faes y gad yn 21 oed yn 1918
Mae dyn o ogledd Ffrainc wnaeth ddarganfod llun milwr o Sir Benfro fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn chwilio am aelod o'i deulu er mwyn ei anrhydeddu.
Fe wnaeth Louis Sabos o Sommaing, gogledd Ffrainc ddarganfod llun o'r Preifat Henry Davies ger mynwent fferm Brydeinig Cannone.
Bellach mae Mr Sabos yn awyddus i wneud cysylltiad gyda theulu'r Preifat Davies, fu farw ar faes y gad yn 21 oed.
Roedd y Preifat Davies yn wreiddiol o Gasmorys, Sir Benfro ble mae ei enw i'w weld ar gofeb yn y pentref.

Mae Louis Sobot o Sommaing, gogledd Ffrainc yn awyddus i ddarganfod teulu'r Preifat Henry Davies
Dywedodd Mr Sobos: "Roedd Henry Davies yn aelod o Gyffinwyr De Cymru ac fe fu farw o'i anafiadau ar 4 Tachwedd 1918.
"Roedd yn 21 oed felly bydd canrif ers ei farwolaeth y flwyddyn nesaf, a hoffwn ddarganfod unrhyw un o'i deulu sydd dal i fyw yn Sir Benfro er mwyn ei anrhydeddu a chofio amdano."
Mae Mr Sobos wedi cysylltu gyda staff yn Archifau ac Astudiaethau Lleol Sir Benfro yn Hwlffordd, sef y ganolfan sy'n gofalu am ddiwylliant, hanes a threftadaeth y sir, i ofyn am help i gysylltu â theulu Henry Davies.
Dywedodd Helen Evans o'r archifdy: "Mae'n wych bod Mr Sabos yn awyddus i dalu teyrnged i filwr o'n sir a chysylltu â'i deulu."
Mae Archifau ac Astudiaethau Lleol Sir Benfro yn awyddus i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y Preifat Henry Davies i gysylltu gyda nhw.

Mae'r Preifat Henry Davies wedi'i gladdu ym mynwent fferm Brydeinig Cannone