Lerpwl 5-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Roberto Firmino'n dathlu ei ail gôl dros Lerpwl
Mae Abertawe'n parhau ar welod tabl Uwchgynghrair Lloegr ar ôl cael crasfa gan Lerpwl.
Philippe Coutinho aeth â'r tîm cartref ar y blaen wedi chwe munud yn unig, ond llwyddodd yr Elyrch i'w hatal rhag ymestyn eu mantais yn yr hanner cyntaf.
Ond fe agorodd y llifddorau yn yr ail hanner fodd bynnag, gyda Roberto Firmino'n sgorio dwywaith ac Alex Oxlade-Chamberlain a Trent Alexander-Arnold yn cyfrannu goliau at fuddugoliaeth gampus i Lerpwl.
Ergyd bellach i Abertawe felly, sy'n brwydro am ei einioes yn Uwchgynghrair Lloegr, ac sy'n dal i chwilio am reolwr newydd yn dilyn ymadawiad Paul Clement.