Dyn 19 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion wedi gwrthrawiad angheuol yn Sir Fynwy.
Bu farw dyn 19 oed wedi i'r car Ford Fiesta roedd e'n ei yrru fynd i drafferthion ar Ffordd Llanfihangel Troddi (Michel Troy) ger Trefynwy tua 12:50 dydd Mercher.
Cafodd merch 15 oed oedd yn teithio yn y car ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gyda mân anafiadau.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 a dyfynu'r cyfeirnod 264 27/12/2017.