Raz De Maree yn ennill ras Grand National Cymru
- Cyhoeddwyd

Raz De Maree oedd y ceffyl buddugol yn ras Grand National Cymru yng Nghas-gwent brynhawn Sadwrn.
Gyda James Bowen ar ei gefn, fe basiodd y ceffyl 13 oed Alfie Spinner tua diwedd y ras, gyda Final Nudge yn gorffen yn drydydd.
Bowen, 16 oed o Sir Benfro, yw'r joci ieuangaf a Raz De Maree yw'r ceffyl hynaf i ennill y ras.
Mae'n golygu mai Gavin Cromwell yw'r ail hyfforddwr o Iwerddon i ennill y tlws, yn dilyn llwyddiant Notre Pere yn 2008.
Cafodd y ras ei haildrefnu wedi iddi gael ei gohirio oherwydd tywydd garw ar 27 Rhagfyr.