Adran Dau: Lincoln 3-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Peniad Matt Rhead yn mynd â Lincoln ar y blaen yn gynnar yn y gêm
Colli fu hanes Casnewydd i ffwrdd yn erbyn Lincoln nos Fawrth.
Ar ôl llwyddo i sicrhau gêm ail-chwarae yn erbyn Tottenham yng Nghwpan FA lloegr dros y penwythnos, fe fethon nhw â chreu'r un sbarc yn yr Ail Adran.
Fe aeth peniad gan Matt Rhead â'r tîm cartref ar y blaen, cyn Padraig Amond unioni'r sgôr.
Ond fe aeth Matt Green a Lincoln ar y blaen unwaith eto, cyn i'r eilydd Ollie Palmer selio'r fuddugoliaeth.
Mae'r canlyniad yn gadael Casnewydd yn ddegfed yn y tabl.