Cau Ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
GwrthdrawiadFfynhonnell y llun, Google

Cafodd Ffordd Blaenau'r Cymoedd ei chau i'r ddau gyfeiriad wedi gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ger cyffordd Glyn Ebwy fore Iau.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A465 rhwng cylchdro Tredegar a ffordd yr A4281 Glyn Ebwy am tua 07:30.

Mae'r gwasanaethau brys wedi cadarnhau fod ambiwlans wedi ei yrru i'r digwyddiad, a bod dau o bobl wedi eu trin ar y safle.

Mae'r ffordd i gyfeiriad y gorllewin bellach wedi ailagor, ond mae'r ffordd tua'r dwyrain yn parhau i fod ar gau.

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans hefyd eu galw wedi gwrthdrawiad ar yr un ffordd am tua 8:15.

Fe ddigwyddodd yr ail wrthdrawiad ger Ystâd Diwydiannol Rasa, a chafodd un dyn ei drin gan barafeddygon ar y safle.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.