Pawb a'i Farn yn ôl am gyfres newydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r gyfres drafod Pawb a'i Farn yn ôl ac yn teithio ar draws Cymru gan roi cyfle i holi gwleidyddion am y pethau sy'n bwysig i chi.
Bydd Dewi Llwyd a thîm Pawb a'i Farn yn ymweld â phob rhan o'r wlad dros y gyfres.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C am 9.30pm ar Nos Iau.

1 Chwefror - Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth
8 Chwefror - Plasdy Rhosygilwen, Cilgerran
15 Chwefror - Canolfan Hamdden Llanfair Caereinion
22 Chwefror - Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Y Barri
8 Mawrth - Theatr y Pafiliwn, Y Rhyl
15 Mawrth - Neuadd Goffa Porth Tywyn
22 Mawrth - Gwesty Neuadd Tre-ysgawen, Llangefni

Os hoffech chi fod yn rhan o'r gynulleidfa, neu am awgrymu lleoliad ar gyfer y gyfres nesaf, cysylltwch â pawbaifarn@bbc.co.uk.
I fod yn rhan o'r drafodaeth, defnyddiwch #pawbaifarn neu @BBCCymruFyw ar Twitter.