Dedfrydu merch ac ŵyr am lofruddiaeth dynes 84 oed
- Cyhoeddwyd

Roedd Penelope John a Barry Rogers wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth
Bydd merch ac ŵyr, dynes 84 oed o sir Benfro, yn cael eu dedfrydu am ei llofruddiaeth yn ddiweddarach ddydd Iau gan farnwr yn Llys y Goron, Abertawe.
Fe gafodd Betty Guy ei bwydo â chymysgedd o wisgi a thabledi cyn cael ei mygu gyda chlustog yn ei chartre' ym mhentre' Johnston yn 2011.
Ddydd Mawrth, penderfynodd rheithgor fod ei merch, Penelope John, 50, a'i hŵyr, Barry Rogers, 33, yn euog o'i llofruddio gan wrthod dadl yr amddiffyniad fod y fenyw 84 wedi marw o achosion naturiol.

Cafodd Betty Guy ei bwydo â chymysgedd o dabledi a wisgi cyn cael ei mygu gyda chlustog
Roedd Mrs Guy yn ddynes wael pan gafodd ei llofruddio, ond nid oedd ei chyflwr yn un angheuol.
Yn ystod y pedair wythnos o dystiolaeth, fe glywodd y rheithgor recordiad cudd gan yr heddlu o sgyrsiau rhwng Rogers a John yn ei chartref hi yn Llanddoged.
Yn ystod y recordiad, mae Rogers i'w glywed yn dweud wrth ei fam: "Fe allwn ni ei wadu, allan nhw ddim profi unrhyw beth oherwydd does dim tystiolaeth, si yw'r cyfan."
"Fi wnaeth gwblhau'r weithred... does gen ti ddim i'w boeni ynghylch, Mam."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2018

- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2018

- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2018

- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2018

- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2018

- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2018

- Cyhoeddwyd13 Hydref 2017

- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2018

- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2017
