Adran Dau: Mansfield 5-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Alfie Potter dair gôl i Mansfield
Colli oedd hanes Casnewydd nos Fawrth wrth iddyn nhw gael crasfa oddi cartref yn erbyn Mansfield o 5-0.
Dyma oedd gêm gyntaf Casnewydd ers iddyn nhw golli yn erbyn Tottenham yn Wembley nos Fercher yng Nghwpan FA Lloegr.
Roedd gobeithion Casnewydd o gael unrhyw beth allan o'r gêm ar ben erbyn yr egwyl, gyda Mansfield yn sgorio pedair yn yr hanner cyntaf.
Cyn-chwaraewr Casnewydd, Danny Rose sgoriodd gyntaf wedi chwe munud, gydag Alfie Potter yn sgorio dwy cyn i Alex MacDonald rwydo'r bedwaredd ar ôl 34 munud.
Llwyddodd Potter i sgorio ei drydedd o'r noson yn yr ail hanner.
Mae rhediad siomedig diweddar Casnewydd yn y gynghrair yn parhau wrth iddyn nhw geisio taro'n ôl ddydd Sadwrn yn erbyn Notts County.