Pro14: Leinster 20-13 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Chwaerwyr y ddau dîmFfynhonnell y llun, Inpho

Mae'r Scarlets wedi methu cyfle i godi i frig eu hadran ar ôl iddyn nhw golli oddi cartref yn erbyn Leinster.

Cafodd Johnny McNicholl gais cynnar i'r Scarlets ond fe darodd James Lowe yn ôl gyda dwy gais yn yr hanner cyntaf.

Daeth cais arall i Luke McGrath ar ddechrau'r ail hanner gan ehangu'r bwlch rhwng y ddau dîm.

Ond mae'r Scarlets wedi cipio pwynt bonws wedi cic gosb hwyr Dan Jones.