Cludo tri pherson i'r ysbyty wedi damwain siop sglodion

  • Cyhoeddwyd
Siop sglodion wedi'r ddamwainFfynhonnell y llun, Josh Evans-Jones

Mae tri pherson wedi cael eu cludo i'r ysbyty ar ôl i gar daro siop sglodion yn Sir Caerffili.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r Beech Tree Fish Bar yn Ystrad Mynach tua 18:50 nos Fercher.

Bu'n rhaid i'r heddlu gau stryd fawr y dref am gyfnod ond mae bellach wedi ailagor.

Mae Cyngor Caerffili wedi cael gwybod am y digwyddiad ac mae disgwyl i beirianwyr adeiladu asesu'r niwed i'r adeilad ar Ffordd Bedwlwyn.

Cafodd dau ambiwlans eu danfon i'r safle ac fe gafodd tri pherson eu cludo i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Does dim rhagor o fanylion am eu cyflwr.