Bachgen yn ymddangos yn y llys wedi marwolaeth Sanclêr
- Cyhoeddwyd

Roedd Fiona Jayne Scourfield yn 54 oed ac yn weithgar dros hawliau anifeiliaid
Mae bachgen 16 oed wedi ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio dynes 54 oed o Sir Gaerfyrddin.
Cafodd ei gyhuddo o ladd Fiona Scourfield gyda bwyell a chleddyf 'samurai'.
Cafwyd hyd i gorff Ms Scourfield, 54, wedi i swyddogion gael eu galw i fferm Broadmoor ar y ffordd rhwng Sanclêr a Thalacharn am 17:47 ddydd Mawrth.
Mae Ms Scourfield, a gafodd ei magu yn Nhalacharn, ei disgrifio fel person "hyfryd" oedd yn gofalu am anifeiliaid.
Roedd yn gwirfoddoli i elusen German Shepherd Rescua UK. Cafodd ei disgrifio gan yr elusen fel "un mewn miliwn".
Mae'r llanc sydd wedi'i gyhuddo o'i llofruddio wedi ei gadw yn y ddalfa mewn uned ieuenctid, a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 12 Mawrth.