Uwch Gynghrair Lloegr: Huddersfield 0-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Cafodd Jordan Ayew garden goch m dacl uchel ar gapten Huddersfield, Jonathan Hogg
Fe sicrhaodd Abertawe bwynt gwerthfawr yn Huddersfield brynhawn Sadwrn er iddyn nhw chwarae 80 munud o'r gêm gyda 10 dyn yn unig.
Cafodd Jordan Ayew gerdyn coch am dacl anniben yn erbyn capten Huddersfield, Jonathan Hogg, ar ôl 11 munud o chwarae.
Ond fe amddiffynodd yr ymwelwyr yn gadarn wedi hynny, gan gynnwys arbediad campus gan gôl-geidwad Abertawe, Lukasz Fabianski ym munudau ola'r gêm.
Mae'r Elyrch bedwar pwynt yn glir o'r tri safle isaf am y tro.