Marwolaeth Sanclêr: Bachgen o flaen Llys y Goron
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i gorff Fiona Jayne Scourfield ar 6 Mawrth
Mae bachgen 16 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe drwy gyswllt fideo wedi'i gyhuddo o lofruddio dynes yn Sir Gaerfyrddin.
Mae wedi ei gyhuddo o ladd Fiona Scourfield, 54, gyda bwyell a chleddyf samurai.
Fe ddaeth plismyn o hyd i gorff Ms Scourfield ar Fferm Broadmoor ger Sanclêr ar 6 Mawrth.
Cafodd y bachgen ei gadw yn y ddalfa mewn uned ddiogel ieuenctid a bydd ei ymddangosiad llys nesaf ar 18 Mai.