Lori yn taro pont rheilffordd yn Y Drenewydd
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i'r A489 fod ar gau am rai oriau er mwyn symud y lori
Mae lori i wedi taro pont rheilffordd yn Y Drenewydd, gan achosi oedi enfawr i drafnidiaeth a threnau.
Fe wnaeth y lori droi ar ei ochr ar ôl taro pont Nantoer rhwng Heol Vaynor a Ffordd Mochdre ar ffordd yr A489.
Mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad ac roedd oedi ar wasanaethau trên rhwng y Drenwydd a Chaersws ar llinell Aberystwyth i Amwythig.
Roedd disgwyl oedi ar y gwasanaethau trên nes 10:45.
