Adran 2: Casnewydd 1-2 Crewe
- Cyhoeddwyd

Arferai Josh Sheehan chwarae i Abertawe ond mae e bellach yn chwarae i Gasnewydd
Colli o ddwy gôl i un fu hanes Casnewydd adref yn erbyn Crewe ddydd Sadwrn.
Harry McKirdy sgoriodd gyntaf i'r ymwelwyr a hynny ar ôl 27 munud a 0-1 oedd hi ar yr hanner.
Wedi awr o chwarae gôl arall i Crewe (Jordan Bowery) ond wedi 81 munud roedd yna gôl i Mickey Demetriou o'r tîm cartref wedi peniad llwyddiannus.
Canlyniad siomedig i'r Alltudion a'r ddwy gôl i Crewe yn sicrhau tri phwynt iddyn nhw.
Y sgôr terfynol Casnewydd 1 Crewe 2.