Ras 10k yn cau nifer o ffyrdd yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Bydd y ras yn dechrau am 11:00
Roedd nifer o ffyrdd y brifddinas ynghau ddydd Sul wrth i'r ras 10k gael ei chynnal ym Mae Caerdydd.
Credir fod oddeutu 6,000 o redwyr wedi rhedeg ras Brecon Carreg.
Yn ogystal cafodd ras 2k i'r teulu cyfan ei chynnal am 10:00.
Roedd Rhodfa Lloyd George, Stryd Pierhead a'r ffordd gyswllt Central Link ar gau rhwng 10:00 a 13:30.
Ar gais y trefnwyr defnyddiodd nifer o'r cystadleuwyr drafnidiaeth gyhoeddus ac fe benderfynodd rhai pobl seiclo neu gerdded.

Roedd y ras yn gorffen ger canolfan Roald Dahl