Pro 14: Gweilch 32-18 Leinster
- Cyhoeddwyd

Fe sgoriodd Dan Evans ddau gais i'r Gweilch
Fe gafodd y Gweilch bwynt bonws nos Sadwrn wrth iddynt drechu Leinster adref o 32 i 18.
Mae'r fuddugoliaeth hefyd yn newyddion da i'r Scarlets gan eu bod nhw yn yr un grŵp â Leinster.
Colli fu hanes y Scarlets ond mae'r bwlch rhyngddyn nhw a Leinster yn aros yr un fath.
Roedd yna ddau gais i'r Gweilch gan Dan Evans ac fe groesodd Tom Habberfield a Justin Tipuric y llinell hefyd.
Sicrhaodd cicio cywir Dan Biggar dri trosiad a dwy gic gosb.
Ar ran y Gweilch dywedodd yr hyfforddwr dros dro Allen Clarke: "Roedd cael pum pwynt yn wych ac rwy'n credu bod ein perfformiad wedi bod yn dda gyda'r bêl ac hebddi.
"Mae'n safle yn y tabl wedi gwella wrth i ni godi uwchben Connacht a nesaf nhw fydd ein gwrthwynebwyr ac felly mae'n tynged yn ein dwylo ni."