Arestio dyn wedi i ddau gael eu trywanu yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Inverness PLace
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr heddlu'n parhau i fod ar safle'r digwyddiad ddydd Llun

Mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio yn dilyn digwyddiad lle cafodd dau ddyn eu trywanu yng Nghaerdydd.

Cafodd swyddogion arfog o Heddlu De Cymru eu galw i Inverness Place yn ardal Y Rhath yng Nghaerdydd am tua 19:40 nos Sul.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod dyn 17 oed ac un arall 23 oed wedi eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru i gael triniaeth.

Trywannu RhathFfynhonnell y llun, Twitter/CF24News
Disgrifiad o’r llun,

Fe gadarnhaodd yr heddlu fod pobl wedi cael eu trywanu mewn digwyddiad yn Y Rhath nôs Sul

Mae trydydd dyn, 26 oed, hefyd yn yr un ysbyty gydag anafiadau tebyg.

Mae'r tri mewn cyflwr sefydlog.

Parhau yn y ddalfa mae'r dyn 35 oed sydd wedi ei arestio ac mae ymchwiliad yr heddlu'n dal i ddigwydd.

Trywannu RhathFfynhonnell y llun, Twitter/CF24News
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd heddlu arfog, dau ambiwlans a meddyg eu galw i'r digwyddiad