Ffair arfau Caerdydd: Arestio chwech
- Cyhoeddwyd

Mae chwech o bobl wedi eu harestio yn ystod digwyddiad yn ymwneud â'r diwydiant arfau yng Nghaerdydd.
Mae'r ffair, Defence Procurement, Research, Technology & Exportability, yn cael ei chynnal yn arena Motorpoint yng nghanol y ddinas ddydd Mawrth.
Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg eisoes wedi galw ar Gyngor Dinas Caerdydd i wrthod cefnogi ffair arfau yn y brifddinas.
Roedd protestwyr wedi bod yn ymgynnull tu allan i'r digwyddiad ers i'r drysau agor fore Mawrth.
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod chwech o bobl wedi cael eu harestio am dresmasu dwys, wedi i fynedfa i'r arena gael ei rwystro am gyfnod, ac i staff fethu a chael mynediad i'w gweithle.
Mae'r heddlu'n parhau i oruchwylio'r sefyllfa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2017

- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017
