Tŷ Pawb Wrecsam: 'Un o'r datblygiadau mwyaf cyffrous'
Cafodd canolfan gelfyddydol Tŷ Pawb, ar safle Marchnad y Bobl yng nghanol Wrecsam, ei hagor yn swyddogol ddydd Iau.
Yn yr agoriad, dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Wrecsam ei fod yn "un o'r datblygiadau mwyaf cyffrous yn y dref ers blynyddoedd".
Ein gohebydd yn y gogledd-ddwyrain, Siôn Pennar fu'n rhoi blas o'r ganolfan newydd i Cymru Fyw.