Y cwmnïau Cymreig sy'n talu mwy i ferched

  • Cyhoeddwyd
cwmniau

Mae cwmnïau drwy'r Deyrnas Unedig wedi bod yn datgelu'r gwahaniaeth cyfartalog mewn tâl rhwng gweithwyr gwrywaidd a benywaidd.

Dyw hi ddim yn syndod bod y mwyafrif - dros dri chwarter - yn talu mwy i ddynion yn y DU.

Ond beth am y cwmnïau hynny sy'n mynd yn erbyn y graen ac yn talu mwy i ferched? Ac ydy'r holl broses yn "hurt" ac yn "ddisytyr"?

Yng Nghymru, roedd 28 o gwmnïau [rhestr lawn isod] yn talu mwy i ferched na dynion ar gyfartaledd yn ôl ffigyrau 2017-18.

Mae'r rhain yn cynnwys cwmni adeiladu Huws Gray, y gwneuthurwyr dur Dyfed Steels, Bwydydd Castell Howell ac Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd Mark Killingley, pennaeth cyfathrebu Grŵp Undeb Rygbi Cymru, bod y ffigyrau yn galonogol ond nad oedden nhw am "ganmol ein hunain yn ormodol".

"Mae gennym ni le i wella wrth gwrs," meddai Mr Killingley wrth Cymru Fyw.

"Yn hanesyddol mae cyrff chwaraeon wedi bod yn cyflogi llai o ferched dros y blynyddoedd. Dim ond tua 20% o'n gweithlu ni sy'n ferched.

"Rydym ni'n gwneud camau mawr o ran cyflogi'n deg, ac os gymerwch chi chwaraewyr y tîm cenedlaethol dynion allan ohoni, mae'r ffigyrau'n adlewyrchu hynny."

Jon FoxFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Davies - yma'n gwisgo crys Scarlets wedi'i noddi gan Dyfed Steels - yn un o'r enwau mawr sy'n cael ei gyflogi gan Undeb Rygbi Cymru

Un o'r cwmnïau eraill sy'n ymddangos ar y rhestr ydy cwmni gwerthu nwyddau adeiladu Huws Gray.

Dywedodd Terry Owen, cyfarwyddwr y cwmni, eu bod nhw'n "hyderus bod ein gweithwyr yn cael eu talu'n hafal am wneud yr un gwaith ar draws y busnes waeth beth yw eu rhyw".

"Rydym yn falch i gefnogi gweithwyr sy'n ferched ac yn ddynion o fewn sector sydd, yn hanesyddol, wedi'u rheoli'n bennaf gan ddynion," ychwanegodd.

Ymarferiad hurt?

Ond yn ôl ysgrifennydd Dyfed Steel, John Morgan, mae'r holl broses o gofnodi'r ffigyrau yn wastraff amser.

"Fues i'n gweithio ar gofnodi'r ffigyrau am bythefnos, ac mae'n ymarferiad hurt a diystyr," meddai Mr Morgan, sy'n gyfrifydd ei hun.

"Mae'n dda ein bod ni wedi cychwyn trafodaeth a bod cwmnïau sy'n gweithredu'n annheg yn cael sylw am hynny.

"Ond fe allwch chi edrych ar y ffigyrau mewn gwahanol ffyrdd - mae popeth yn dod lawr i'r math o swyddi ydyn nhw.

"Rydym ni'n cyflogi tua 250 o ddynion a tua 20 o fenywod - mae hynny'n bennaf am nad yw menywod yn ceisio am swyddi yn y maes rydym ni ynddi.

"Digwydd bod y tro hyn, wrth ddefnyddio'r math yma o gyfartaledd, mae'n ffigyrau ni yn ffafriol o blaid y merched. Ond fe allai fod y ffordd arall yr un mor rhwydd."

464 gray line

Y rhestr yn llawn...

  • St. David's Foundation Hospice Care (43% o wahaniaeth cyflog o blaid merched)

  • GS Yuasa Battery Manufacturing UK Ltd (33%)

  • Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (23%)

  • Triumph Furniture Ltd (16%)

  • Llamau Ltd (15%)

  • Dow Silicones UK Ltd (13%)

  • Castell Howell Foods Ltd (8%)

  • Personnel Hygiene Services Ltd (6%)

  • Q Care Ltd (5%)

  • Undeb Rygbi Cymru (5%)

  • F.C. Brown (Steel Equipment) Ltd (5%)

  • Marr Corporation Ltd (5%)

  • Huws Gray Ltd (5%)

  • Coastal Housing Group Ltd (4%)

  • Wales & West Utilities Ltd (4%)

  • Intertissue Ltd (3%)

  • Retail Merchandising Services Ltd (3%)

  • Cyngor Dinas Casnewydd (3%)

  • Trivallis Ltd (3%)

  • Dyfed Steels Ltd (3%)

  • Newport City Homes Housing Association (3%)

  • Fletchers Bakeries Ltd (3%)

  • Lonetree Ltd (1%)

  • LBS Builders Merchants Ltd (0.4%)

  • Eurochange Ltd (0.2%)

  • Databail Ltd (0.1%)

  • Peachkey Ltd (0.1%)

  • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe (0.1%)

Cliciwch yma i chwilio am fanylion cwmnïau o'ch dewis chi [erthygl Saesneg].

464 gray line

Mae'r holl ffigyrau sy'n cael eu trafod yma yn edrych ar gyflog gweithwyr fesul awr ar gyfartaledd gan ddefnyddio'r canolrif (median).

Roedd hi'n orfodol ar gwmnïau gyda staff o 250 o bobl neu fwy i ddatgelu'r ffigyrau.