Barnwr yn gwrthdroi ewyllys miliwnydd wedi cam i'w gymar
- Cyhoeddwyd

Mae barnwr wedi dyfarnu bod miliwnydd oedrannus o Sir Benfro a fu farw y llynedd wedi gwneud cam â'i gymar hirdymor trwy adael dim byd iddi yn ei ewyllys.
Roedd Joan Thompson, 79, wedi cyd-fyw gyda'r dyn busnes Wynford Hodge yn Fferm a Maes Carafanau Parsonage yn Llanrhath am 42 o flynyddoedd hyd ei farwolaeth o gansyr yn 94 oed yn 2017.
Ond er iddo ddweud wrthi yn yr ysbyty cyn iddo farw y byddai'n gofalu amdani yn ariannol, fe ddywedodd mewn llythyr gyda'i ewyllys nad oedd yn dymuno iddi hi na'i phlant i etifeddu'r un ceiniog o'i ffortiwn, oedd yn werth dros £1.5m.
Yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd ddydd Llun fe wnaeth y Barnwr Milwyn Jarman benderfyniad anarferol iawn i newid telerau'r ewyllys oedd yn rhoi'r cyfan i ddau o denantiaid Mr Hodge, gan ddweud ei fod wedi gwneud "camgymeriad" ac wedi methu cwrdd â'i gyfrifoldeb i'w gymar.
Fe ddyfarnodd y dylai Mrs Thompson gael bwthyn gwerth £225,000, bron £30,000 er mwyn adnewyddu'r adeilad a £130,000 i'w chynnal yn ariannol.
Byw ar fudd-daliadau
Roedd Mr Hodge wedi nodi yn y llythyr gyda'r ewyllys bod ganddi ei harian ei hun a'i bod felly mewn sefyllfa "gysurus" ond mewn gwirionedd dim ond tua £2,500 roedd ganddi mewn cynilion.
Ers marwolaeth Mr Hodge, mae hi wedi wedi byw ar fudd-daliadau mewn cartref nyrsio, ond fe ddywedodd ei bod yn dymuno dychwelyd i'r ystâd deuluol ac at gyfeillion yn y maes carafanau.
Roedd Mr Hodge wedi llunio mwy na 10 ewyllys cyn iddo farw, ac roedd yn un diwethaf yn Rhagfyr 2016 yn gadael ei ffortiwn i Karla Evans ac Agon Berisha oedd yn rhentu tŷ ganddo yn Arberth.
Fe wnaeth hynny am fod y ddau wedi bod yn garedig tuag ato ym mlynyddoedd olaf ei fywyd, gan ei helpu gyda'i siopa a gwneud sawl cymwynas yn ddi-dâl.
Dywedodd Ms Evans nad oedd yn dymuno bod yn filiwnydd, ac y byddai cael digon o arian i fagu ei theulu ifanc a chael gwyliau blynyddol yn ei bodloni.
Er y newid i'r ewyllys, fe fydd y cwpwl yn dal i dderbyn y rhan fwyaf o'r ystad.
Prif ofalwr
Dywedodd y barnwr bod Mr Hodge wedi gwneud camgymeriad trwy ddod i'r casgliad na fyddai Mrs Thompson angen cefnogaeth ariannol wedi ei farwolaeth.
Mae'n dioddef o glefyd y galon ers 12 mlynedd a bu'n rhaid iddi roi tystiolaeth i'r llys o gadair olwyn.
Fe symudodd yn wreiddiol i fyw mewn carafán gyda'i mab ifanc ar dir Fferm Parsonage yn y 1970au cyn symud yn fuan wedi hynny i'r ffermdy at Mr Hodge.
Bu'n gweithio'n ddi-dâl ar y fferm a'r maes carafanau, ac fe wnaeth helpu gofalu am fam Mr Hodge.
Mrs Thompson oedd prif ofalwr Mr Hodge pan waethygodd ei iechyd yntau.
Dyfarnodd y barnwr y dylid trosglwyddo'r bwthyn i'w henw ac y bydd modd i'w theulu ofalu amdani yno.