Disgyblion Rhostryfan yn profi nerth y rhyngrwyd

  • Cyhoeddwyd

Pan benderfynodd athrawon ysgol wledig yng Ngwynedd ddysgu'r plant am bŵer y rhyngrwyd, go brin y bydden nhw wedi disgwyl y fath ymateb.

Er mwyn dangos i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 Ysgol Rhostryfan y peryglon o roi manylion personol ar y we, ac yn arbennig ar wefannau cymdeithasol fel Facebook, cafodd nodyn gan y plant gydag apêl i'w rannu mor helaeth â phosib ei bostio.

Mae'r neges bellach wedi'i rannu gan dros 1,000 o bobl, ac wedi'i gweld gan lawer, lawer mwy.

Y llythr gan ddisgyblion Rhostryfan sydd wedi teithio'r byd (yn electronig)
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o'r llythyr sydd wedi teithio'r byd... yn electronig

"Mae'r wers am ddiogelwch ar y we wedi bod yn effeithiol a buddiol iawn i'r plant," meddai Trystan Larsen, prifathro'r ysgol.

"Yn syml, y wers yn wreiddiol oedd peidiwch â rhoi gwybodaeth bersonol ar y we, achos 'sda ni ddim clem lle ma' nhw'n mynd a 'sda ni ddim rheolaeth lle ma' nhw'n mynd.

"O fewn 24 awr, roedd dros 62,000 wedi gweld a rhannu'r neges, gyda phobl yn ymateb o wledydd fel Awstralia, Seland Newydd, America, Canada, Lebanon, Tsiena, India, Ariannin, Periw, Gwlad Belg.

"Ond ar lefel mwy personol, roedd y neges wedi cyrraedd fy ngwraig i ar Facebook, cyn i mi hyd yn oed bod yn ymwybodol ohono!

"Erbyn rŵan, dau ddiwrnod yn ddiweddarach, mae fyny i bron 100,000 o bobl... erbyn i chi gyhoeddi'r stori 'ma, fydd o wedi newid eto peryg!

"Mae'r plant wedi dysgu llawer o'r profiad, ac wrth gwrs, dyna oedd ei brif bwrpas!"

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi neges facebook gan Cyfeillion Ysgol Rhostryfan

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd neges facebook gan Cyfeillion Ysgol Rhostryfan