Band y Cory yw Band Cymru 2018
- Cyhoeddwyd

Band y Cory - enillwyr Band Cymru 2018
Wedi noson llawn cyffro yn Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe, Band y Cory o'r Rhondda sydd wedi ennill cystadleuaeth Band Cymru 2018.
Y tri band arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Brass Beaumaris, Band BTM a Band Arian Llaneurgain.
Roedd y band buddugol yn derbyn gwobr o £8,000.
Cafodd y pedwar band a ddaeth i'r rownd derfynol eu dewis o blith 12 o gystadleuwyr ar ddiwedd y rownd gyn-derfynol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
"Cystadleuaeth yw hi i fandiau chwyth, pres a jazz ac mae'r pwyslais ar gyflwyniad a rhaglen safonol ac adloniannol," medd cwmni Rondo - trefnwyr y gystadleuaeth.
Rhaid oedd i bob band gael isafswm o 12 offeryn chwyth/pres ac uchafswm o 5 person nad oedd yn chwarae offerynnau chwyth/pres e.e. offerynnau taro, piano, drymiau.
Doedd dim hawl cael mwy na 35 aelod mewn unrhyw fand.

Christopher Thomas, Band y Cory - enillydd y wobr o £500 am yr unawdydd gorau
Roedd y 12 band a fu'n perfformio yn Aberystwyth yn derbyn £500 yr un ac roedd y bandiau a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn derbyn £500 yn ychwanegol.
Eleni am y tro cyntaf erioed, roedd gwobr o £2,000 am y cyflwyniad llwyfan gorau o ddarn unigol a gwobr hefyd i'r unawdydd gorau.

Brass Beaumaris a enillodd y wobr am y cyflwyniad llwyfan gorau
Christopher Thomas o Fand y Cory enillodd y wobr am yr unawdydd gorau a rhoddwyd y wobr am y cyflwyniad llwyfan gorau i Hora Staccato gan Brass Beaumaris.
Band Ieuenctid Cymru
Nos Sadwrn cafodd cystadleuaeth Band Ieuenctid Cymru 2018 ei chynnal ac enillwyr y wobr o £1,000 oedd Band Jazz Tryfan.

Band Jazz Tryfan yn cipio'r wobr i fandiau ieuenctid nos Sadwrn
Y tri band arall a ddaeth i'r brig oedd Cerddorfa Jazz Ieuenctid Gwasanaeth Cerdd Caerdydd a'r Fro, Band Mawr Ieuenctid Torfaen a Band Pres Ieuenctid Gwent.