Cyn-swyddog Byddin Iachawdwriaeth i wynebu achos troseddau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Salvation Army badge and mottoFfynhonnell y llun, Mike Kriby/ Geograph

Gall BBC Cymru ddatgelu bod cyn-swyddog Byddin yr Iachawdwriaeth o Gasnewydd yn wynebu achos llys wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plentyn.

Yr honiad yw bod y dyn, sydd ddim yn cael ei enwi, wedi cam-drin bachgen yn ei arddegau yn y 1970au.

Mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi dweud wrth BBC Cymru nad ydyn nhw'n gallu gwneud sylw.

Mewn gwrandawiad yn gynharach eleni, plediodd y dyn yn ddieuog i anwedduster dybryd gyda phlentyn ac ymosod yn anweddus ar ddyn.

Achos yn yr haf

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cadarnhau y bydd y cyn-swyddog yn wynebu achos llys yn yr haf.

Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn eglwys ac yn elusen gofrestredig, ac fe all swyddog gael ei ddyrchafu o fewn y sefydliad.

Dywedodd Byddin yr Iachawdwriaeth nad oedd yn bosib iddyn nhw wneud sylw tan ar ôl yr achos.

Mae'r diffynnydd, sydd nawr yn ddyn oedrannus, wedi pledio'n ddieuog i anwedduster dybryd gyda phlentyn ac ymosodiad anweddus ar ddyn.