Cyn-chwaraewr rygbi Cymru wedi gyrru lori tra'n feddw

  • Cyhoeddwyd
LorryFfynhonnell y llun, Devon and Cornwall Police

Mae cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol wedi cyfaddef gyrru lori oriau ar ôl yfed potel o fodca.

Cafodd Andrew Allen, 51 o Gasnewydd, ei garcharu am 16 wythnos ar ôl cael ei arestio ar ffordd ddeuol yn Nyfnaint.

Clywodd y llys bod Allen "mor feddw nad oedd yn gallu cerdded" pan gafodd ei stopio gan yr heddlu am tua 15:00 ar 21 Ebrill.

Enillodd Allen, oedd yn chwarae yn yr ail reng, dri chap i Gymru yn 1990.

Clywodd Llys Ynadon Plymouth bod Allen wedi yfed potel o fodca rhwng 22:00 nos Wener a 03:00 bore Sadwrn.

Clywodd y llys bod Allen wedi gyrru ar yr M4 a'r M5, cyn cael ei weld yn gwyro ar draws yr A38, a bod ei brawf anadl wedi rhoi canlyniad "eithriadol o uchel"

Dywedodd ei gyfreithiwr, Andrea Parson bod Allen wedi bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.

Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar, cafodd ei wahardd rhag gyrru am 164 wythnos a gorchymyn i dalu £115 i'r llys.