Awdur ac arbenigwr cwis yn cael gorchymyn atal 10 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Trevor MontagueFfynhonnell y llun, Who Wants to be a Millionaire/Cellador/ITV
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trevor Montague wedi ymddangos mewn sawl rhaglen gwis gan gynnwys Who Wants to be a Millionaire?

Mae awdur ac arbenigwr gwybodaeth cyffredinol sydd wedi ymddangos ar raglenni cwis teledu wedi derbyn gorchymyn yn ei atal rhag cysylltu â dau berson am 10 mlynedd.

Roedd Trevor Montague i fod i wynebu cyhuddiadau o flacmel yn Llys y Goron Caerdydd ond fe ddywedodd yr erlyniad nad oedd am gyflwyno tystiolaeth.

Clywodd y llys bod yr achwynwyr, wedi trafodaethau, yn dymuno tynnu llinell dan y mater heb achos llys, ac yn fodlon gyda gorchymyn atal.

Roedd Mr Montague, 64, yn ei ddagrau wrth adael y llys. Roedd yr achos a gafodd ei ollwng yn ymwneud â ffrae dros arian gydag argraffwyr un o'i lyfrau.

Mae'n awdur llyfrau ffeithiau gan gynnwys A to Z of Almost Everything, A to Z of Sport, A to Z of Britain And Ireland ac A to Z of British (and Irish) Popular Culture.

Mae'n honni bod dros dair miliwn o gopïau o'i lyfrau wedi'u gwerthu.

Mae hefyd wedi cystadlu mewn rhaglenni poblogaidd gan gynnwys Who Wants To Be A Millionaire?, Mastermind, Krypton Factora Fifteen-to-One.

'Rheswm i deimlo gofid'

Er na chlywodd y llys fanylion yr anghydfod rhwng Montague a'r argraffwyr, dywedodd y Barnwr Thomas Crowther QC bod hi'n "ymddangos i mi ar yr olwg gyntaf bod yna reswm i bobl deimlo gofid ac fe fyddai'n cyfan wedi cael ei wyntyllu".

Roedd yr erlyniad wedi dadlau dros orchymyn atal am oes, ond ar ôl ystyried oedran Mr Montague fe benderfynodd y barnwr y byddai mewn grym am 10 mlynedd.

Mae'n atal Mr Montague rhag cysylltu â'r ddau unigolyn a mynd i'w cartrefi a'u gweithle. Hefyd mae'n ei rwystro rhag eu trafod "gan gynnwys ar y we".

Mr Montague, o Crawley yng Ngorllewin Sussex, wnaeth sefydlu'r British Quiz Association yn 2001.

Fe wnaeth un o ymddangosiadau Mr Montague ar y teledu arwain at gamau cyfreithiol yn y gorffennol wedi cwyn nad oedd yn gymwys i gymryd rhan.

Roedd hynny ar ôl iddo ennill fâs gwerth £3,000 ar ôl cystadlu ar y rhaglen Fifteen-to-One am yr ail dro dan yr enw Steve Romana.

Roedd wedi newid steil ei wallt ac roedd yn gwisgo clustdlysau aur, ond fe wnaeth un o wylwyr y rhaglen ei nabod.

Bu'n rhaid iddo ddychwelyd yr arian ar ôl i'r cyflwynydd a'r cynhyrchydd William G Stewart ddwyn achos yn ei erbyn.