Cwest: 'Gwyrthiol' fod bachgen 11 mis oed wedi goroesi

  • Cyhoeddwyd
jason thomasFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Jason Thomas, 23, yn dad ym mis Mai

"Yn wyrthiol" fe oroesodd bachgen 11 mis oed ddamwain angheuol yng Nghwm Tawe a lladdodd ei fam ifanc a'i phartner.

Bu farw Jason Thomas a Naomi Carter yn oriau man fore Sadwrn ym mis Tachwedd y llynedd ar ôl i'w car fod mewn gwrthdrawiad â pholyn trydan ar Heol Abertawe, Trebannws.

Cafodd bachgen 11 mis oed Ms Carter, Brogan, ei gludo i Ysbyty Treforys gydag anafiadau nad oedd yn peryglu ei fywyd.

Daeth y crwner i'r casgliad bod y ddau wedi marw oherywdd gwrthdrawiad cerbyd.

Dywedodd yr Arolygydd Kyle Smith fod y car yn teithio'n "rhy gyflym" ac o ganlyniad wedi "colli rheolaeth".

'Difrod trychinebus'

Clywodd y cwest yng nghanolfan ddinesig Abertawe bod yr heddlu wedi dod o hyd i gar Mr Thomas wedi ei lapio o gwmpas polyn trydan.

Doedd amodau'r ffordd ar y noson honno "ddim yn addas" at frecio cyflym, yn ôl yr heddlu.

Naomi Carter a BroganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Naomi Carter gyda'i mab Brogan

Ar ôl cynnal profion fe ddaeth i'r amlwg bod gan Jason Thomas ganabis ac alcohol yn ei waed, ond yn ôl y crwner John Phillips, nad oedd digon i ddweud un ffordd neu'r llall os oedd hyn wedi effeithio ar ei yrru.

Clywodd y cwest bod pedwar o drigolion Heol Abertawe wedi cael eu dihuno gan sŵn y gwrthdrawiad toc wedi 03:00 ar 6 Tachwedd 2017.

Yn ôl PC Efstathiou o Heddlu De Cymru, fe ddefnyddiodd un o'r trigolion, Richard Davies, offer torri metal ei hun i achub y babi ar frys.

'Bendith' bod y babi wedi byw

Bu farw Ms Carter a Mr Thomas yn y fan a'r lle ar ôl i'r car ddioddef difrod "trychinebus".

Fe ddywedodd yr Arolygydd Kyle Smith: "Yn fy marn i, roedd y car yn teithio'n rhy gyflym, ac wedi bwrw yn erbyn darn o bafin.

"O ganlyniad, mae'r gyrrwr wedi colli rheolaeth o'r car, ac mae'r car wedi lapio ei hun o gwmpas y polyn trydan."

Dywedodd bod y car yn teithio "ymhell uwchben" 20 m.y.a.

Yn ôl y crwner John Phillips mai'r "unig fendith yw bod y babi wedi goroesi", a bod hyn yn destun i'r gofal gymrodd y ddau i sicrhau bod y babi wedi ei strapio'n ddiogel yn y cefn.

Straeon perthnasol