Rhaid blaenoriaethu lles meddyliol plant a phobl ifanc

Mae adroddiad gan un o bwyllgorau'r Cynulliad yn dweud bod angen gweithredu "ar frys" er mwyn ymyrryd yn gynt i helpu plant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Byddai buddsoddi mwy yn y maes ymyrraeth gynnar yn osgoi neu leihau "trallod diangen", medd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg,

Tra bod ymchwiliad yn cydnabod gwelliannau ers 2014 i'r gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol (CAMHS), dyw'r newidiadau, meddai, ddim yn mynd ddigon pell.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried yr adroddiad yn fanwl.

Un o aelodau'r pwyllgor yw'r AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.