Cam ymlaen yn y frwydr i buro afonydd Cymru

Mae cynllun peilot i atal dŵr o hen fwyngloddiau rhag llygru afonydd wedi cynnig canlyniadau "syfrdanol", yn ôl swyddogion amgylcheddol.

Gan ddefnyddio techneg arloesol, cafodd llaid metalig ei wahanu o'r hylif sy'n dod o lofa gan adael dŵr glân.

Fe lwyddodd y dechnoleg newydd - y cyntaf o'i bath yn y byd - i gael gwared ar 99.5% o'r metalau sy'n effeithio ar ansawdd dŵr.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mae'n "gam ymlaen" o ran taclo'r broblem drwy'r wlad.

Mae'r datblygwr - cwmni Power and Water o Abertawe - wedi derbyn patent byd-eang ar gyfer y dechnoleg.

Yn ôl Mike Rattenbury o'r cwmni mae'r cynllun peilot wedi bod yn llwyddiant mawr.