Mwy o docynnau'r Brifwyl yn mynd ar werth fore Mawrth

  • Cyhoeddwyd
Y Ganolfan

Bydd tocynnau ar gyfer rhagor o weithgareddau'r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn mynd ar werth fore Mawrth.

Bydd y tocynnau ar gael ar-lein o 08.30 ymlaen ar 8 Mai, a thros y ffôn o 10:00 ymlaen, ac mae'r trefnwyr yn dweud eu bod yn disgwyl "galw mawr" amdanyn nhw.

Hefyd fe fydd modd prynu'r bandiau garddwrn fydd angen ar Eisteddfodwyr i fynd i weithgareddau yn ystod y dydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Fe fydd y drefn yr un fath â mis diwethaf pan wnaeth problem gyda gwefan y ganolfan arwain at gwynion gan bobl yn dweud eu bod wedi cael trafferthion wrth geisio archebu tocynnau ar gyfer cyngherddau Prifwyl eleni.

line break
Frân WenFfynhonnell y llun, Fran Wen
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Ffion Dafis yn dod â hunllef dynes ag iselder dwys yn fyw yn ystafelloedd tanddaearol Tŷ Portland

Gan fod Eisteddfod Caerdydd yn "ŵyl drefol ac arbrofol", mae'r trefnwyr yn dweud bod cyfle i fod "yn feiddgar a mentrus gyda rhai perfformiadau" gan ddefnyddio "cymysgedd cyffrous o adeiladau parhaol y Bae a strwythurau deniadol dros dro."

Mae'r tocynnau sy'n cael eu rhyddhau fore Mawrth ar gyfer y perfformiadau canlynol:

  • Nos Lun i nos Wener yn ystafelloedd tanddaearol Tŷ Portland ar Stryd Biwt: dehongliad newydd o'r ddrama Anweledig gan Aled Jones Williams a Chwmni Frân Wen gyda Ffion Dafis unwaith eto yn portreadu hunllef dynes yng nghrafangau iselder dwys;

  • Nos Sul i nos Fawrth yn y Babell Lên yng Nghanolfan y Mileniwm: Sieiloc gan Gareth Armstrong - y sioe un dyn a enillodd wobr y Cynhyrchiad Teithiol Gorau yn yr Iaith Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru eleni, gyda Rhodri Miles yn portreadu'r benthyciwr arian Iddewig o'r Marsiandwr o Fenis;

  • Nos Lun i nos Wener yn Theatr y Maes, Canolfan Mileniwm Cymru: Milwr yn y Meddwl gan Heiddwen Tomos - drama newydd, ddirdynnol sy'n archwilio effaith trawma ar filwr a'i deulu. Hon oedd drama fuddugol Cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017;

  • Nos Lun a nos Iau yn Theatr y Maes, Canolfan y Mileniwm: Mynd a Dod - ymateb Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr i gomisiwn arloesol gan yr Eisteddfod am ryddid pobl ifanc i fynd a dod fel ag y mynnan nhw. Y disgyblion sydd wedi sgriptio'r sioe ac yn ei pherfformio dan arweiniad Bethan Marlow, Mei Gwynedd, Marc Lewis a Rhydian Lake;

  • Dydd Llun a dydd Mawrth yn Neuadd Hoddinott, Canolfan y Mileniwm Cymru: Cyw a'r Gerddorfa - pan fydd cymeriadau poblogaidd rhaglenni S4C yn ymuno a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC mewn cyngerdd arbennig i ddathlu pen-blwydd gwasanaeth Cyw yn 10 oed; a

  • Nos Lun yn Dawns, Tŷ Portland, Stryd Biwt: Twmpath arbennig i ddathlu hanner canrif o ddawnsio gwerin yng Nghaerdydd.

line break
Map newydd y maes ym Mae Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Map cychwynnol darluniadol o'r maes - efallai y bydd ambell beth yn symud cyn yr Eisteddfod

Dywedodd Elen Elis, trefnydd a phennaeth artistig yr Eisteddfod eu bod "yn arbennig o falch" o amrywiaeth a safon y sioeau a'r perfformiadau ac yn gobeithio eu bod wedi cynnwys rhywbeth sy'n mynd i apelio at bawb.

"Mae'r cyfle i gael y rhyddid i arbrofi gyda gwahanol ofodau ac i ystyried y defnydd o leoliadau parhaol a thros-dro wedi bod yn gyffrous, ac wedi ein galluogi ni i edrych eto ar sut ydan ni'n rhaglennu a chyflwyno ambell beth," meddai.

"Gobeithio y bydd y gynulleidfa hefyd yn gweld hyn ac yn mwynhau'r profiad gwahanol eleni ym Mae Caerdydd.

"Gyda'r tocynnau sy'n cael eu rhyddhau yfory, mae modd i ymwelwyr ddechrau mynd ati i gynllunio'r wythnos erbyn hyn. Buan iawn y daw mis Awst ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb atom i Fae Caerdydd."

Bydd y tocynnau ar werth ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol , dolen allanolam 8:30 ar 8 Mai, a thrwy ffonio 0845 4090 800 o 10:00 ymlaen.

Mae'r bandiau garddwrn yn galluogi'r Eisteddfod i gadw at amodau iechyd a diogelwch Canolfan Mileniwm Cymru, ac fe mae modd eu harchebu ymlaen llaw am bris gostyngol tan 30 Mehefin.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd rhwng 3-11 Awst.

Straeon perthnasol