Honiadau o hiliaeth yn erbyn hyfforddwr o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Graham Rix a Gwyn WilliamsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Graham Rix a Gwyn Williams wedi gwrthod unrhyw honiadau o hiliaeth

Mae dau o gyn-hyfforddwr pêl-droed Chelsea, yn cynnwys un o Gymru, yn wynebu honiadau o hiliaeth yn erbyn chwaraewyr ifanc yn y 1970au, 80au a 90au.

Mae saith o gyn-chwaraewyr Chelsea bellach wedi cyhuddo Gwyn Williams, sydd o Langollen, neu Graham Rix o gamdriniaeth hiliol.

Daw hyn wedi honiadau gan dri chwaraewr ym mis Ionawr.

Dywedodd Williams a Rix eu bod yn gwadu "unrhyw honiadau o gamdriniaeth hiliol neu o unrhyw fath arall", tra bod Clwb Pêl-droed Chelsea yn dweud eu bod yn trin yr honiadau fel rhai "difrifol iawn".

'Uffern'

Mae'r BBC wedi siarad gyda phedwar cyn-chwaraewr du, gydag un yn dweud bod yr hyfforddwyr wedi gwneud ei fywyd yn "uffern".

Dywedodd un arall ei fod wedi cael ei alw'n bob math o enwau hiliol, gydag un arall yn dweud bod y clwb yn "hiliol yn sefydliadol" ar adeg yr honiadau.

Ychwanegodd un o'r cyn-chwaraewyr: "Roedd yr ymddygiad yn warthus ond doedd dim modd i'r chwaraewyr ei herio, oedd yn ei wneud yn waeth."

Mae'r honiadau wedi eu cefnogi gan ddau gyn-chwaraewr arall.

HiliaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Honnodd un cyn-chwaraewr fod Clwb Pêl-droed Chelsea'n "hiliol yn sefydliadol"

Dywedodd un, Gary Baker, oedd yn chwarae i dîm ieuenctid Chelsea rhwng 1981-1985, bod "cael Gwyn yn gwadu'r pethau gafodd eu dweud yn gwbl anghywir".

Mae Mr Williams a Mr Rix wedi gwadu "unrhyw honiadau o gamdriniaeth hiliol neu o unrhyw fath arall".

Dywedodd Clwb Pêl-droed Chelsea y byddai ymchwiliad llawn i'r honiadau.

"Rydyn ni'n benderfynol o wneud y peth iawn, i gynorthwyo'r awdurdodau ac unrhyw ymchwiliadau fydd yn digwydd, ac i gefnogi'r rheiny sydd wedi eu heffeithio, fyddai'n cynnwys cwnsela i unrhyw gyn-chwaraewr all fod angen hynny."